Cabanau Moethus
ARGORED – Mae modd llogi dros y ffôn ar 01495 272001, bob dydd rhwng 10am a 2pm.
Mae chwe chaban newydd bellach yn rhan o’n cynnig llety i ymwelwyr yng Nghoedwig Cwmcarn. Gyda lle cysgu ar gyfer 2 – 6 o bobl, mae’r cabanau â dodrefn wedi’u cwblhau i safon uchel iawn. Mae gan bob gegin osod ac ystafell ymolchi gyda chawod a thoiled ynghyd â theledu, gwely dwbl maint llawn ac ardal fyw gyda gwely soffa (mewn cabanau sydd â lleoedd cysgu o 4+). Mae’r drysau dwbl yn agor ar feranda â decin sydd ag ardal eistedd a golygfeydd godidog.
Deffrowch i glywed adar yn trydar ac awyr iach y goedwig o’ch cwmpas. Ymhlith y coedwigoedd mewn llecyn tawel, mae’n ddarn bach o dawelwch. Os hoffech chi rhagor o gyffro, mae’r maes chwarae antur yn agos (ond nid yn rhy agos!) ynghyd â gweithgareddau dŵr, llwybrau cerdded a beicio, Caffi’r Gigfran a’r ganolfan ymwelwyr.
Mae prisiau’n cychwyn o £252 am 3 noson yn ystod y cyfnod llai prysu.
Bach – lle i 2 oedolyn a 2 blentyn
Canolig – lle i hyd at 4 oedolyn, neu 2 oedolyn a 2 blentyn
Mawr – lle i hyd at 4 oedolyn a 2 blentyn
Tymor tawel Anterth y tymor
(Hydref – Mawrth)
Bach £76
Canolig £84
Mawr £92
(Ebrill – Medi)
Bach £95
Canolig £105
Mawr £115
Gallwn ddarparu dillad gwely am £9 yn ychwanegol.
Nid yw’r cabanau’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes
Archebwch nawr >