Crwydrwch drwy Goedwig Cwmcarn ar feic, car neu droed
Crwydrwch drwy Goedwig Cwmcarn ar feic neu ar droed.
Mae bryniau’r hen ardal gloddio hon wedi’u trawsnewid i fod yn goedwigoedd heddychlon gyda golygfeydd trawiadol lle mae natur wedi adennill mwyafrif o dir diwydiannol y gorffennol. Erbyn hyn, mae Coedwig Cwmcarn yn hafan i bobl a bywyd gwyllt.
Mae Coedwig Cwmcarn yn baradwys beicio mynydd, sy’n cynnig tri llwybr beicio mynydd a phedwerydd ar y gweill. Mae pob dim ar gael ar gyfer diwrnod o feicio cyffrous ar gyfer pobl sy’n gaeth i adrenalin – gan gynnwys digon o leoedd parcio, siop atgyweirio beiciau a gwasanaeth cludo. Beth am estyn eich ymweliad drwy aros yn un o’n podiau glampio neu yn y cabanau newydd sydd ar y safle. Yn y ganolfan ymwelwyr, mae Caffi’r Gigfran yn darparu brecwast, ynghyd â byrbrydau a phrydau swmpus.
P’un a ydych am gael taith gredded neu dro bach hamddenol, mae gan Goedwig Cwmcarn bob dim, o deithiau heriol i gopa Twmbarlwm i lwybrau ysgafn o amgylch y goedwig a llawr y cwm. Edrychwch ar ein llwybrau isod.