Oriau Agor y Ganolfan Ymwelwyr
Ar agor bob dydd 9.00am – 5.00pm
Ar gau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd o 25 Rhagfyr tan 2 Ionawr.
Maes Parcio
Mae lleoedd parcio i geir ar gael am £1 am 2 awr neu £3 ar gyfer y diwrnod cyfan.
Cyfarwyddiadau
Ar y ffordd – cyfeiriwch at y map isod
Wrth i chi nesáu at Goedwig Cwmcarn, dilynwch yr arwyddion ar gyfer y safle, gan y bydd Systemau Llywio â Lloeren yn eich cyfeirio at ystâd dai leol.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Bws
Mae’r safleoedd bysiau mwyaf cyfleus ar Silver Street sydd ar Twyncarn Road ym Mhont-y-waun. Mae’r rhain ar yr heol sy’n arwain at brif fynedfa Coedwig Cwmcarn.
Mae amserlenni bysiau Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gael yma
Map bysiau a threnau Bwrdeistref Sirol Caerffili
Trenau
Yr orsaf drenau agosaf yw Crosskeys, sef taith gerdded o dua 15 munud o’r ganolfan ymwelwyr.
Traveline Cymru – Cynlluniwr Taith
Ffordd Goedwig Cwmcarn
Nodwch fod y Ffordd Goedwig bellach wedi cau er mwyn cael gwared ar y coed llarwydd heintiedig. Mae modd i chi gerdded a beicio yn y goedwig o hyd ac mae’r Ganolfan Ymwelwyr ar agor fel arfer.