|  Call 01495 272001  |  Email cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk  |      Archebwch nawr >
Beicio Mynydd yng Nghoedwig Cwmcarn

Dyma’ch cyfle i fwynhau hwyl trac sengl ac antur yr allt ar lwybrau beicio mynydd Cwmcarn. Mae Cwmcarn o fewn taith gyrru hanner awr o Bont Tywysog Cymru a dim ond 10 munud o Gyffordd 28 yr M4.

Y llwybrau trac sengl gwyllt a mwy naturiol yw’r ‘Cafall’ a ‘Llwybr y Twrch’ chwedlonol. Bydd y ddau lwybr gradd goch yn bendant yn cadw’ch ffocws wrth fynd ar eu hyd, ond os arhoswch i ddal eich gwynt a byddwch yn edrych allan dros Fôr Hafren. Mae Llwybr Gwaered y Mynydd yn cynnig dewis gradd eithafol arall i’r rhai sy’n ymuno â’r gwasanaeth cludo beiciau mynydd a ddarperir gan ‘Cwmdown’, i archebu cliciwch yma.

Weithiau, bydd y llwybrau beicio mynydd ar gau neu wedi’u gwyro wrth wneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill yng Nghoedwig Cwmcarn. Dilynwch arwyddion y gwyriad neu gyfarwyddiadau gan y staff ar y safle. Am wybodaeth am y llwybrau sydd ar gau neu wedi’u gwyro, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru trwy ddilyn y ddolen hon: https://cyfoethnaturiol.cymru/days-out/places-to-visit/south-east-wales/cwm-carn-forest/?lang=cy

Dilynwch God Beicio’r Goedwig

  • Peidiwch â dibynnu ar eraill: Allwch chi gyrraedd adref yn ddiogel? Secrhewch fod gennych chi’r offer cywir ac yn gwybod sut i’w ddefnyddio.
  • Er eich diogelwch eich hun: Gwisgwch y dillad diogelwch cywir bob amser, a defnyddio helmed a menig beicio o leiaf.
  • Peidiwch â mynd y tu hwnt i’ch gallu: Ystyriwch bob naid a her yn gyntaf, a pheidio â’u gwneud os nad ydych yn hollol sicr y gallwch chi’u cyflawni! Hyfforddwch yn gywir, yn enwedig ar gyfer llwybrau anodd a thechnegol.
  • Ar y ffordd ac oddi arni: Rhaid disgwyl yr annisgwyl – cadwch lygaid allan am ymwelwyr eraill. Er eich diogelwch eich hun ac eraill, dilynwch yr arwyddion rhybudd ac unrhyw gyngor a roddir i chi ar bob adeg. Os bydd cerbyd yn llwytho coed, stopiwch ac aros i’r gyrrwr adael i chi fynd heibio’n ddiogel.
Image

Llwybr Cafall

Gan ddringo i uchderau dros 400 metr, mae'r llwybr hwn yn rhoi teimlad o antur o iawn i chi. Mae dringfeydd caled ac adrannau trac sengl tynn yn cyfuno â rhai disgyniadau serth a thechnegol ffantastig (cadwch lygad allan am yr adrannau’r Hideout, Rocky Valley, Heartbreak Ridge a Powder House) a phob un yn cynnig teimlad 'naturiol' gwych ar gyfer beicwyr profiadol yn unig. Cewch eich gwobrwyo gyda thaith beicio anhygoel a golygfeydd godidog o'r ardal gyfagos ar lwybr sy'n mynd â chi i rai o ardaloedd mwyaf anghysbell Coedwig Cwmcarn. Bydd angen i chi fod yn hunangynhaliol a disgwyl newidiadau i'r tywydd ar hyd y llwybr 'gradd goch' anodd a heriol hwn. Gradd y Llwybr - Coch / Anodd

Map Llwybr Cafall >

Image

Llwybr y Twrch

Mae hwn yn llwybr gwych o'r ansawdd uchaf sydd ddim yn addas i’r gwangalon. Mae'r llwybr hwn yn drac sengl pwrpasol am bron ei hyd gyfan. Mae'n amrywio o adrannau agored sy’n llifo i adrannau sy’n dechnegol dynn â gwreiddiau. Mae modd defnyddio’r trac ym mhob tywydd. Mewn mannau, mae'r llwybr cadw at ochrau ambell llethr goediog serth iawn, gan eich gorfodi i ganolbwyntio, tra mewn ardaloedd eraill mae'n ysgubo ar hyd tir agored gan roi cyfle i chi werthfawrogi golygfeydd dramatig y Môr Hafren a'r bryniau o’ch cwmpas. Gradd y Llwybr - Coch / Anodd

Map Llwybr y Twrch >

Image

Llwybr Gwaered y Mynydd

Mae llawer o’r beicwyr am i lawr gorau sydd gennym heddiw wedi bwrw eu prentisiaeth yma ar Y Mynydd. Caiff y llwybr ei ystyried fel llwybr am i lawr gorau’r DU, ac mae’n disgyn yn fertigol 250 metr trwy dirwedd ddramatig Cwm Carn ac mae yno lifftiau ar waith drwy’r flwyddyn.

Map Llwybr Gwaered y Mynydd >

Image

Llwybr y Bytheiad

Mae modd cael mynediad i lwybr gradd Ddu ‘Y Bytheiaid’ naill ai drwy lwybr Cafall XC neu’r gwasanaeth cludo ar y safle. Mae’n llwybr traws gwlad llinol sy’n opsiynol ond mae angen sgiliau ac offer beicio uwch na’r llwybr XC gradd Goch.

Map Llwybr y Bytheiad>

Image

Pa lwybr beicio mynydd sy'n addas i chi?

Gall beicio mynydd fod yn weithgaredd beryglus sy'n peri risg sylweddol. Dim ond ar ôl deall yr holl risgiau cynhenid yn llawn y dylid ymgymryd ag ef. Rhaid defnyddio'r canllaw hwn bob amser ochr yn ochr â’ch profiad, greddf a barn bwyllog eich hun.

Dewis y llwybr beicio mynydd cywir >

Image

Graddfeydd llwybrau yng Nghoedwig Cwmcarn

Mae pob un o’n lwybrau yn gofyn bod beicwyr yn brofiadol iawn ac yn meddu ar sgiliau beicio mynydd hyfedr.

Sgoriau ein llwybrau >

  • Caerphilly County Borough Council logo
  • Natural Resources Wales