Mae ffordd chwaethus o wersylla yng Nghoedwig Cwmcarn
Mae ein deg pod glampio ar waelod y ffordd goedwig, yng nghanol y coed a’r bywyd gwyllt. Mae’r podiau clyd hyn yn cynnig profiad gwersylla gydag ychygig o foethusrwydd. Mae gwresogydd um mhob pod, felly’r unig beth sydd angen arnoch chi yw’ch sach gysgu neu’ch gwely gwersylla. Am brofiad hyd yn oed yn fwy moethus, beth am ddewis pod â dodrefn, sy’n cynnwys gwely dwbl a chegin fach gydag oergell. Mae gwelyau bync sy’n addas ar gyfer plant hyd at 10 oed ar gael i’w llogi ar gyfer y podiau mwy o faint.
Mae’r cyfleusterau â gradd 4 seren sydd ar y safle yn cynnwys cawodydd, toiledau, ardal gegin a golchdy. Mae hyn oll wedi’i leoli gyferbyn â’r podiau er hwylustod. Mae yna leoedd parcio gyferbyn â’r podiau, ynghyd âg ardal bicnic awyr agored ar gyfer pob pod glampio.
Dewch â’r teulu cyfan!
Mae’r codennau glampio heb ddodrefn yn addas ar gyfer anifeiliaid anwes, felly gallwch ddod â’ch ci i fwynhau’r bywyd awyr agored. Uchafswm o ddau gi y pod.
Mae modd archebu’r podiau glampio ar gyfer un noson, ac eithrio penwythnosau gŵyl banc lle mae angen archebu am 3 noson o leiaf.