|  Call 01495 272001  |  Email cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk  |      Archebwch nawr >
Canolfan Ymwelwyr a Digwyddiadau

Canolfan Ymwelwyr Cwmcarn

Mae gan Goedwig Cwmcarn ganolfan ymwelwyr fodern gyda man gwybodaeth helaeth ynllawn mapiau a gwybodaeth leol. Mae gan y siop anrhegion gyfoes amrywiaeth o anrhegion o safon gan gynnwys nwyddau Harry Potter. Mae Caffi’r Gigfran yn cynnig prydau poeth a byrbrydau oer ynghyd â chacennau cartref blasus a dewis gwych o ddiodydd poeth ac oer. Mae ystafell gyfarfod ar gael i’w llogi ar gyfer cyrsiau hyfforddi, cynadleddau a chyfarfodydd.

Caffi’r Gigfran

Yn cynnig bwydlen  symlach o fwyd poeth ac oer rhwng 9.30am a 4.00pm ddydd Sadwrn i ddydd Iau a rhwng 9.30am a 3.30pm ar ddydd Gwener.

 

Siop Anrhegion

P’un a yw’n anrheg i ffrind i aelod o’r teulu, mae gennym ddetholiad o gynhyrchion sy’n addas i bob chwaeth a chyllideb. Mae ein hamrywiaeth o gynnyrch yn gymysgedd o bethau ffordd o fyw a thueddiadau tymhorol ynghyd â chornel â thema Harry Potter sy’n cynnwys bocsys cadw a chelf wal wedi’i hysbrydoli gan arwyddion stryd.

Edrychwch ar ein dewis helaeth o syniadau rhodd Nadolig sy’n cynnig rhywbeth gwahanol i fanwerthwyr y stryd fawr. Mae’r dewis o anrhegion ac addurniadau Nadolig ar gael o ganol mis Hydref.

Ystafell Gyfarfod

Gall ein hystafell gyfarfod lletya hyd at 60 o bobl mewn arddull theatr, 36 o bobl gyda byrddau a 30 o bobl gyda byrddau siâp pedol, a gall letya grwpiau llai ar gyfer seminarau a chyfarfodydd.

Mae offer ar gael ar gyfer cyflwyniadau PowerPoint ynghyd â siart troi.

Mae peiriant diodydd poeth ar gael yn yr ystafell pan fo angen, mae’r taliadau’n seiliedig ar gyfrif y peiriant ar ddiwedd y dydd. Mae croeso i fynychwyr ddefnyddio’r oergell a’r meicrodon.

Pris llogi’r ystafell: £50 hanner dydd a £100 diwrnod llawn (heb gynnwys TAW)

Mae gwasanaeth arlwyo ar y safle ar gael ar gyfer grwpiau sy’n dymuno defnyddio ein cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant, cynadleddau a chyfarfodydd. Ffoniwch y ganolfan ymwelwyr ar 01495 272001 i drafod cyfraddau llogi’r ystafell ac i drafod eich anghenion.

Digwyddiadau Cwmcarn

  • Caerphilly County Borough Council logo
  • Natural Resources Wales