|  Call 01495 272001  |  Email cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk  |      Archebwch nawr >

Enwir Coedwig Cwmcarn yn un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

Hyd 15, 2020

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o safon.

Bydd y faner yn chwifio yng Nghoedwig Cwmcarn i gydnabod ei gyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd anhygoel.

Bu trawsnewidiadau anhygoel yng Nghoedwig Cwmcarn dros y blynyddoedd diwethaf. Yn fwy diweddar, cafodd Caffi’r Gigfran yn y ganolfan ymwelwyr gyllid i ehangu’r gegin a’r ardal gweini, ynghyd â thirlunio llawn o’r gofod allanol i gynyddu’r ardal eistedd. Gosodwyd man chwarae i dwdlod newydd wrth ochr y ganolfan ac arwyddion newydd ledled y safle.

Mae Coedwig Cwmcarn yn parhau i dderbyn gwobr y Faner Werdd ac yn ymfalchïo mewn cynnal mannau gwyrdd hyfryd Coedwig Cwmcarn i’r safon uchaf.

Dywedodd Michael Owen, Rheolwr yng Nghoedwig Cwmcarn, “Mae’r safonau cynnal uchel y mae ymwelwyr yn gweld ledled y safle yn dyst i waith caled ein staff sydd wedi cynnal Coedwig Cwmcarn o dan yr amodau mwyaf heriol. Fel atyniad awyr agored, rydyn ni’n ffodus o allu cynnig hafan i ymwelwyr ar garreg ei ddrws, lle mae modd mynd am dro neu feicio a mwynhau’r awyr iach. Mae siop anrhegion a derbynfa’r ganolfan ymwelwyr ar agor ac mae Caffi’r Gigfran yn gweithredu fel tecawê yn ystod pandemig y coronafeirws.”

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.
Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr y wobr ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/cy


<< Yn ôl at newyddion
  • Caerphilly County Borough Council logo
  • Natural Resources Wales