|  Call 01495 272001  |  Email cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk  |      Archebwch nawr >

Llwybrau beicio newydd yn dod i Goedwig Cwmcarn

Chw 5, 2020

Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu llwybrau beicio newydd a gwell yng Nghoedwig Cwmcarn.

Bydd y gwelliannau yn golygu y bydd y llwybrau beicio a beicio mynydd presennol yn cael eu hehangu a’u gwella, gyda 5.5km o lwybrau traws gwlad ychwanegol, gan greu dolen ddeniadol sy’n caniatáu i feicwyr mwynhau mwy o’r dirwedd brydferth ac ymestyn eu hamser beicio cyn mynd yn ôl i’r cwm.

Hefyd, bydd llwybr beicio ‘glas’ newydd yn cael ei ychwanegu i deuluoedd mwynhau’r amgylchoedd ysblennydd yng Nghoedwig Cwmcarn. Disgwylir i hyn gael ei orffen erbyn tua diwedd y gwanwyn, 2020.
Mae’r atyniad i dwristiaid, sydd wedi’i leoli o fewn 1,400 hectar o dirwedd goediog syfrdanol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, wedi gweld nifer o ychwanegiadau newydd yn ddiweddar, gan gynnwys hwb chwarae antur a chwe chaban moethus.

Darparwyd cyllid am y llwybr beicio ‘glas’ newydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a thrwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r gwelliannau i’r llwybrau presennol yng Nghoedwig Cwmcarn yn rhan o raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth a arweinir gan Croeso Cymru ac sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwaith i’r llwybrau yn cael ei wneud fel rhan o brosiect mawr sydd werth £4.6 miliwn ac sy’n cael ei gefnogi gan yr Undeb Ewropeaidd, sef Triongl Antur Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Cyflawnir y cynllun gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Glandŵr Cymru a Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r cynllun, bydd Bwrdeistref Sirol Caerffili yn elwa ar fuddsoddiad cyfalaf o dros £1.8 miliwn.

Bydd prosiectau ar gyfer y dyfodol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnwys cyflawni rhagor o ychwanegiadau yng Nghoedwig Cwmcarn, er enghraifft gwelliannau tirweddu i glan y llyn a’r llwybrau cerdded, gan gynnwys y rhai sy’n cysylltu Twmbarlwm i orllewin Torfaen, a gwaith isadeiledd ar gangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gartrefi, Lleoedd a Thwristiaeth, “Mae Coedwig Cwmcarn eisoes yn gyrchfan pwysig yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd y gwelliannau diweddar yn cynnig mwy o gyfleoedd i’r sawl sy’n chwilio am anturiaethau awyr agored, o drigolion lleol i dwristiaid sy’n ymweld â’r Fwrdeistref Sirol.”


<< Yn ôl at newyddion
  • Caerphilly County Borough Council logo
  • Natural Resources Wales