Mae Cwmcarn Forest Drive yn dychwelyd
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd gatiau Ffordd Goedwig Cwmcarn yn ailagor ddydd Llun 21 Mehefin am y tro cyntaf ers dros chwe blynedd.
Dim ond taith 10 munud o Gyffordd 28 yr M4, gallwch chi anelu am y bryniau a mynd am dro yn y car o amgylch ysblander Coedwig Cwmcarn.
Ymdroellwch ar hyd troadau’r ffordd a chaniatáu i’r goedwig hudolus eich trochi mewn tawelwch, lle gallwch chi anghofio am weddill y byd. Parciwch yn un o’r saith maes parcio a mwynhau golygfeydd panoramig syfrdanol o gefn gwlad neu ddewis un o’r sawl lle picnic a barbeciw ac ymlacio.
Gadewch i’r plant losgi rhywfaint o egni mewn dewis o DRI man chwarae antur newydd, twneli synhwyraidd, llwybr cerfluniau trwy’r coetir neu ddilyn sawl llwybr sy’n addas i bawb o bob gallu.
Ar ôl cau’r Ffordd Goedwig yn 2015 i ganiatáu torri 150,000 o goed a oedd wedi’u heffeithio gan y clefyd Phytophthora ramorum, rydyn ni wrth ein boddau o groesawu ymwelwyr yn ôl i’r atyniad awyr agored poblogaidd.
Am ragor o wybodaeth gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin, ewch i’n rhai isod,