|  Call 01495 272001  |  Email cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk  |      Archebwch nawr >

Mae Emma, sy’n flogio, yn profi gwyliau yn un o gabanau Coedwig Cwmcarn

Dec 19, 2019

Mae Emma, sy’n brofiadol wrth flogio, yn ymweld â Choedwig Cwmcarn i brofi gwyliau dros nos mewn un o’r cabanau moethus newydd sbon. Mae Emma yn rhoi cynnig ar y brecwast calonnog yn Raven’s Cafe yn y Canolfan Ymwelwyr ac yn mynd am dro ar un o lwybrau cerdded Cwmcarn – Llwybr Clychau’r Gog. Mae’r cabanau â dodrefn hyfryd ac mae lle i rhwng 2 a 6 person gysgu. Mae pob un wedi’u lleoli er mwyn gallu gwerthfawrogi’r golygfeydd sydd o’u hamgylch. Gyda chegin, ystafell ymolchi llawn, gwely dwbl, teledu, gwres canolog a decin allanol, mae’r cabanau hyn yn cynnig profiad dianc-rhag-y-cyfan go iawn, er eu bod dim ond 20 munud i ffwrdd o gyffordd 28 o’r M4. Un o ganolfannau antur awyr agored gorau De Cymru yw Coedwig Cwmcarn gyda llwybrau cerdded, chwaraeon dŵr a llwybrau beicio mynydd (ar gyfer beicwyr difrifol sy’n mwynhau heriau)!


<< Yn ôl at newyddion
  • Caerphilly County Borough Council logo
  • Natural Resources Wales