|  Call 01495 272001  |  Email cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk  |      Archebwch nawr >
Cabanau moethus yng Nghoedwig Cwmcarn

Mae gan ein cabanau newydd sbon ddodrefn hyfryd ac yn cynnig llety cyfforddus a modern o fewn safle heddychlon yn agos i’r ganolfan ymwelwyr a’r llyn. Mae pob caban yn cynnig golygfa wych ac ardal decin i fwynhau brecwast yn yr awyr agored.

Gall cabanau gwahanol gynnig llety i deuluoedd, ffrindiau a chyplau*

Bach – lle cysgu ar gyfer 2 oedolyn a 2 blentyn
Canolig – lle cysgu ar gyfer hyd at 4 oedolyn neu 2 oedolyn a 2 blentyn
Mawr – lle cysgu ar gyfer hyd at 4 oedolyn a 2 blentyn

Gallwn ddarparu dillad gwely am £9 yn ychwanegol.

Nid yw’r cabanau’n gyfeillgar i anifeiliaid anwes.

* Llety i’w archebu dros y ffôn yn unig – 01495 272001 *

*Mae un o’n cabannau yn addas i anifeiliaid anwes
  • Lodge interior living area
  • Lodge exterior decking
  • Lodge interior kitchen area

Cabanau 2 a 6 - 4 person

Gallwch chi ddewis naill ai'r caban mwy (Caban 2) neu'r caban safonol cynllun agored i 4 person gyda gwely dwbl, gwely soffa ddwbl a theledu sgrin fflat. Mae popty a hob yn ardal y gegin. Cawod yn unig sydd yn yr ystafell ymolchi ac mae gan y caban wres canolog llawn.

from £100

ffoniwch i archebu 01495 272001

Cabanau 3 a 5 - 6 pherson

Dyma'n cabanau cyntaf ni gyda chynllun agored i 6 pherson gyda gwely dwbl, gwely soffa ddwbl, gwelyau bync sengl wedi'u gosod yn ochr y caban a theledu sgrin fflat. Mae gan ardal y gegin naill ai meicrodon a hob, neu bopty bach a hob. Cawod yn unig sydd yn yr ystafell ymolchi ac mae gan y caban wres canolog llawn.

from £110

ffoniwch i archebu 01495 272001

Caban 4 - 2 berson, cyfeillgar i anifeiliaid anwes

Y lleiaf o'r cabanau, sy'n lletya 2 berson ac sydd hefyd yn gyfeillgar i anifeiliaid anwes. Mae'r gwely dwbl uchel wedi'i leoli yng nghefn y caban ac mae mynediad iddo i fyny ychydig o risiau. Mae teledu sgrin fflat yn y man eistedd. Mae'r gegin yn cynnwys meicrodon a hob. Cawod yn unig sydd yn yr ystafell ymolchi ac mae gan y caban wres canolog llawn.

from £90

ffoniwch i archebu 01495 272001

  • Lodge exterior

Caban 7 – 4 person, cyfeillgar i anifeiliaid anwes

Caban safonol i 4 person, cyfeillgar i anifeiliaid anwes, sydd â chynllun agored gyda gwely dwbl, gwely soffa ddwbl a theledu sgrin fflat. Mae popty a hob yn ardal y gegin. Cawod yn unig sydd yn yr ystafell ymolchi ac mae gan y caban wres canolog llawn.

from £100

ffoniwch i archebu 01495 272001

  • Caerphilly County Borough Council logo
  • Natural Resources Wales